2014 Rhif (Cy. )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn cydgrynhoi darpariaethau presennol mewn perthynas â safleoedd cartrefi symudol preswyl, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r modd y rheolir ac y cynhelir safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru.

Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/***) (“y Rheoliadau Rheolau Safle”) wedi eu gwneud o dan Ddeddf 2013 ac yn cyflwyno seiliau newydd ar gyfer ceisiadau i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (“y tribiwnlys”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 (“y Prif Reoliadau”) yng ngoleuni Deddf 2013 a’r Rheoliadau Rheolau Safle. Diwygir y Prif Reoliadau i ddiweddaru cyfeiriadau at Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 fel eu bod yn cyfeirio at ddarpariaeth gyfatebol yn Neddf 2013. Yn ychwanegol, gwneir darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau newydd y caniateir eu gwneud i’r tribiwnlys o dan Ddeddf 2013 a’r Rheoliadau Rheolau Safle.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar

gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd

asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision

sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau

hyn. Gellir cael copi o’r Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif (Cy. )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                            1 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt hwy([1]) gan adran 250(2) o Ddeddf Tai 2004([2]) ac Atodlen 13 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 250(6)(g) o’r Ddeddf honno([3]) mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

(3) Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Hydref 2014.

 

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

2. Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012([4]) wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen.

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 

YR ATODLEN

Rheoliad 2

 

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

1. Yn rheoliad 2—

(a)     hepgorer y diffiniad o “Deddf 1983”;

(b)     yn y man priodol mewnosoder “ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013([5]);”;

(c)     yn y diffiniad o “cais”—

                           (i)    ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;

                         (ii)    ym mharagraff (c), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”;

                       (iii)    ar ddiwedd paragraff (c), yn lle “,” rhodder “; neu”; a

                        (iv)    ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(ch)  y Rheoliadau Rheolau Safle,;

(d)     yn y diffiniad o “person â buddiant”—

                           (i)    ym mharagraff (ch), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ran 4 o Ddeddf 2013, neu Atodlen 2 i’r Ddeddf honno”;

                         (ii)    ym mharagraff (d), yn lle “o dan baragraffau 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;

                       (iii)    ym mharagraff (dd), yn lle “o dan baragraff 6A(2)(a) neu 6A(2)(b) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 41(1)(a) neu 41(1)(b) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”; a

                        (iv)    ar ôl paragraff (e), mewnosoder—

“(f) mewn perthynas â chais o dan Ran 2 o Ddeddf 2013, pan fo’n gymwys, perchennog y safle neu reolwr y safle, os nad yw’r person hwnnw’n barti i’r cais;”;

(e)     yn y diffiniad o “cartref symudol” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 60 o Ddeddf 2013”;

(f)      yn y diffiniad o “meddiannydd” yn lle pob cyfeiriad at “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”, ac yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”;

(g)     yn y diffiniad o “llain” yn lle “ym Mhennod 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “yn adran 55 o Ddeddf 2013”;

(h)     yn y diffiniad o “mangre” yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”;

(i)      yn y diffiniad o “safle a ddiogelir” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 2(2) o Ddeddf 2013”;

(j)      yn y diffiniad o “cymdeithas preswylwyr gymwys” yn lle “Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “adran 61 o Ddeddf 2013”;

(k)     yn y diffiniad o “perchennog safle” yn lle “adran 5(1) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 62 o Ddeddf 2013”; ac

(l)      yn y man priodol mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Rheolau Safle” (“the Site Rules Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014([6])”.

2. Yn rheoliad 4(1), yn lle “neu Ddeddf 1983”, rhodder “, Deddf 2013, neu’r Rheoliadau Rheolau Safle”.

3. Yn rheoliad 5—

(a)     yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a

(b)     ym mharagraffau (1) a (2), yn lle pob cyfeiriad at “Ddeddf 1983” rhodder “Ddeddf 2013”.

4. Yn rheoliad 7—

(a)     yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a

(b)     ym mharagraff (1), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.

5. Hepgorer rheoliad 11.

6. Yn rheoliad 12—

(a)     yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;

(b)     ym mharagraff (1), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;

(c)     ym mharagraff (3)(a), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;

(d)     ym mharagraff (3)(b), yn lle “paragraff 5A(4) o Bennod 2, neu baragraff 6(2) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “paragraff 7(3) o Bennod 2, neu baragraff 40(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”; ac

(e)     ym mharagraff (6)(c), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”.

7. Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.

8. Yn rheoliad 21—

(a)     ym mharagraff (5), yn lle “o dan baragraffau 4, 5, 5A neu 10 o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5, 6 neu 8 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraffau 5, 6, 7 neu 14 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39, 40 neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”; a

(b)     ym mharagraff (7), hepgorer “neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol)”.

9. Yn rheoliad 22(5), hepgorer “neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol)”.

10. Yn rheoliad 35, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Mewn perthynas â chais i’r tribiwnlys o dan Ddeddf 2013 neu’r Rheoliadau Rheolau Safle, ni chaiff y swm y caniateir gorchymyn i barti mewn achos ei dalu yn yr achos, drwy benderfyniad a wneir o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004, fod yn fwy na £10,000.

11. Yn rheoliad 40(5), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”.

12. Yn rheoliad 45—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “£150” rhodder “£155”; a

(b)     ym mharagraff (2) yn lle “£150” rhodder “£155”.

13. Yn rheoliad 46, yn lle “£150” rhodder “£155”.

14. Yn rheoliad 47—

(a)     yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;

(b)     hepgorer paragraff (1);

(c)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan reoliad 10 (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog) a rheoliad 17 (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad) o’r Rheoliadau Rheolau Safle.;

(d)     ym mharagraff (2), yn lle “Deddf 1983” rhodder “Deddf 2013”;

(e)     yn lle paragraff (2)(a) i (d), rhodder—

(a) adran 7(4)(b) (trwydded safle: gwrthod dyroddi);

(b)   adran 12(2) (amodau trwydded safle: apêl);

(c)   adran 14(1) (amrywio amodau trwydded safle: apêl);

(ch) adran 17(2) (hysbysiad cydymffurfio: apêl);

(d)   adran 21(9) (camau brys: apêl);

(dd) adran 22(7) (hawlio treuliau: apêl);

(e)   adran 28(2) (cais gan awdurdod lleol am ddirymu trwydded safle);

(f)   adran 29(6)(b) (person addas a phriodol);

(ff) adran 30(5) (rheolwr interim);

(g)   adran 33(4) (gorchymyn ad-dalu);

(ng) adran 49(5) (datganiad ysgrifenedig);

(h)   adran 50(2) neu (3) (telerau ymhlyg/datganedig mewn cytundeb safle);

(i)   adran 54 (awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys);

(j)   paragraffau 5, 6 neu 7 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (terfynu);

(l)   paragraffau 10 neu 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (gwerthu neu roi cartref symudol);

(ll) paragraffau 14 o Bennod 2, neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (ail-leoli cartref symudol); ac

(m) paragraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 (aseinio cytundeb).;

(f)      ym mharagraff (3)—

                           (i)    yn is-baragraff (a) yn lle “£150” rhodder “£155”;

                         (ii)    yn is-baragraff (b) yn lle “£200” rhodder “£205”;

                       (iii)    yn is-baragraff (c) yn lle “£400” rhodder “£410”; a

                        (iv)    yn is-baragraff (ch) yn lle “£500” rhodder “£515”;

(g)     ym mharagraff (4)(a), yn lle “o Ddeddf 1983” rhodder “o Ddeddf 2013”; ac

(h)     ym mharagraff (5), yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”.

15. Yn yr Atodlen—

(a)     yn y pennawd uwchben paragraff 50, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”;

(b)     ym mharagraff 50—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig)” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “adran 1(2) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(1) o Ddeddf 2013”;

(c)     ym mharagraff 51—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig)” rhodder “adran 50(2) o Ddeddf 2013 (telerau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yn ymhlyg)”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “Rhan 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;

(d)     ym mharagraff 52—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)” rhodder “adran 50(3)(a) o Ddeddf 2013 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(b)(i), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013”; a

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(b)(ii), yn lle “adran 1(6) o Ddeddf 1983” rhodder “adran 49(5) o Ddeddf 2013”;

(e)     ym mharagraff 53—

                           (i)    yn y pennawd, yn lle “o dan Ddeddf 1983” rhodder “o dan Ddeddf 2013”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (1), yn lle “adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae’r Ddeddf honno’n gymwys iddo)” rhodder “adran 54 o Ddeddf 2013 (penderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ran 4 o Ddeddf 2013 neu gytundeb y mae’r Rhan honno’n gymwys iddo)”;

(f)      ym mharagraff 54—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2, neu baragraff 6(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith andwyol cartref symudol)”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(a), yn lle “o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2, neu baragraff 6(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

(g)     ym mharagraff 55—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5 neu 6(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle)” rhodder “o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1)(b) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (terfynu gan berchennog y safle)”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(b), yn lle “o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2, neu baragraffau 4, 5 neu 6(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 4 o Bennod 2, neu baragraff 4 o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 5 o Bennod 2, neu baragraff 38 o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”; a

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(d), yn lle “o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2, neu baragraff 6(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

(h)     ym mharagraff 56—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 a pharagraff 6B(7) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983” rhodder “o dan baragraff 10(3) (gwerthu cartref symudol) neu baragraff 13(3) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 a pharagraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(a), yn lle “o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2, neu baragraff 6B(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 10(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 42(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

                       (iii)    ar ddiwedd is-baragraff (2)(a), mewnosoder “a”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b), yn lle “; ac” rhodder “.”; a

                          (v)    hepgorer is-baragraff (2)(c);

(i)      ym mharagraff 57—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 10(1) o Bennod 2, neu baragraff 8(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (adleoli cartref symudol)”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 10(1) o Bennod 2, neu baragraff 8(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

(j)      ym mharagraff 58—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 10(2) o Bennod 2, neu baragraff 8(2) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol)” rhodder “o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (adleoli cartref symudol)”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(c), yn lle “o dan baragraff 10(2) o Bennod 2, neu baragraff 8(2) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

(k)     ym mharagraff 59—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2, neu baragraffau 14(b), 15(4) neu 15(8) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain)” rhodder “o dan baragraffau 17(1)(b), 17(6) ac 17(11) o Bennod 2, a pharagraffau 47(1)(b), 47(5) a 47(9) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi llain)”; a

                         (ii)    yn lle is-baragraff (2), rhodder—

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   yr hysbysiad a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(3) neu (8)(b) o Bennod 2, neu 47(3) neu (7)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno (pa un a’i cyflwynwyd erbyn yr amser sy’n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio); a

(b)   unrhyw ddogfen a gyflwynwyd ynghyd â’r cyfryw hysbysiad yn unol â pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o’r Atodlen honno.;

(l)      ym mharagraff 60—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2, neu baragraff 16(1)(a)(iii) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain)” rhodder “o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2, neu baragraff 48(1)(a)(iii) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi llain)”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(ch), yn lle “o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2, neu baragraff 20(f) ac (g) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno” rhodder “o dan baragraff 22(1)(e) ac (f) o Bennod 2, neu baragraff 52(1)(f) ac (g) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno”;

(m)   hepgorer paragraff 61; ac

(n)     ar ôl paragraff 61, mewnosoder—

Ceisiadau sy’n ymwneud â phenderfyniad awdurdod lleol i beidio â dyroddi trwydded safle

62.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(4)(b) o Ddeddf 2013 (dyroddi trwydded safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   copi o’r hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod dyroddi trwydded safle a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, a ddyroddwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 7(4)(a) o Ddeddf 2013;

(b)   unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol a roddwyd mewn perthynas â’r safle; ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag amodau trwydded safle

63.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adrannau 12(2) neu 14(1) o Ddeddf 2013 (amodau neu amrywio trwyddedau safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;

(b)   copi o’r Safonau Enghreifftiol a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; ac

(c)   unrhyw ddogfen berthnasol arall sy’n pennu’r rheswm dros osod neu amrywio amod ar drwydded safle.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio

64.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 17(2) o Ddeddf 2013 (hysbysiad cydymffurfio).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;

(b)   copi o’r hysbysiad cydymffurfio; ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â chamau brys

65.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 21(9) o Ddeddf 2013 (camau brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   unrhyw hysbysiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a

(b)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â hawliad am dreuliau

66.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(7) o Ddeddf 2013 (hawlio treuliau).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   copi o’r hawliad am dreuliau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 22(6) o Ddeddf 2013;

(b)   prawf o gollfarn am drosedd o dan adran 18(1), os yw’n briodol;

(c)   copi o unrhyw hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adrannau 17(1), 20(2), 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a

(d)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu trwydded safle

67.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 28(2) o Ddeddf 2013 (cais am ddirymu trwydded safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   unrhyw dystiolaeth o dan adran 29(3) neu (4) y rhoddwyd sylw iddi gan yr awdurdod lleol;

(b)   os yw’n gymwys, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a); ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud â phenderfynu a yw person yn berson addas a phriodol

68.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 29(6)(b) o Ddeddf 2013 (apêl yn erbyn penderfyniad nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a);

(b)   unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys tystiolaeth o dan adran 29(3) a (4); ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â rheolwyr interim

69.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 30(5) o Ddeddf 2013 (penodi rheolwr interim).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â phenodi rheolwr interim; a

(b)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion ad-dalu pan fo’r safle heb ei drwyddedu

70.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 33(4) o Ddeddf 2013 (cais am orchymyn ad-dalu pan fo safle heb ei drwyddedu).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   unrhyw dystiolaeth ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn adran 33(6);

(b)   unrhyw dystiolaeth ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn adran 33(9); ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle neu reolwr y safle, yn ôl fel y digwydd.

 

Ceisiadau sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Rheolau Safle

71.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   yr hysbysiad o gynnig a ddyroddwyd o dan reoliad 8;

(b)   y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9; ac

(c)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

72.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 17 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)   y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9; a

(b)   unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

 

 

 

 

 

 

 



([1])           Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Tai 2004 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(2)(c) o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([2])           2004 p. 34.

([3])           Yr un, neu’r un i raddau sylweddol, yw’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ddeddf Tai 2004 â’r swyddogaeth sy’n arferadwy o ran Lloegr. Mae adran 250(6)(g) o’r Ddeddf honno’n darparu bod rhaid i Reoliadau a wneir yn rhinwedd paragraff 11(3)(b) neu 12(3)(b) o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno gael eu gosod gerbron a’u cymeradwyo gan benderfyniad dau Dŷ’r Senedd. Yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r ddarpariaeth yn gymwys i arfer y swyddogaeth honno o wneud y rheoliadau gan Weinidogion Cymru, fel pe bai unrhyw gyfeiriad at naill Dŷ’r Senedd neu’r llall yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

               

([4])           O.S. 2012/531 (Cy. 83).

([5])           2013 dccc 6.

([6])           O.S. 2014/***